Post No. POSN003127 - Teaching Assistant Level 3 - Llanwern High School
Llanwern High School is looking to appoint a Learning Support Assistant to support pupils from across the key stages. This post will involve working with pupils on a one-to-one basis and small group situations. The successful candidates will be able to familiarise themselves with the educational needs of pupils and draw on information provided by the school and AENCO in order to provide the best support possible. We are looking for candidates who are motivated, patient and supportive. Full details regarding this position can be found in the Job description and person specification.
Llanwern High School is a mixed 11-18 comprehensive school that serves much of the eastern side of Newport. It is housed in a modern building that provides a learning environment appropriate for a 21st century education. There are approximately 1,000 pupils on roll with pupil numbers envisaged to grow significantly in the coming years. Llanwern High School provides a high level of support and offers a positive and welcoming working environment, excellent staff wellbeing and professional development for all employees.
Closing date 1st June 2025
Interview date : TBC
THIS POST REQUIRES YOU TO BE REGISTERED WITH THE EWC
We welcome applications for all our jobs in either Welsh or English. An application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Newport City Council is committed to working towards its workforce being more representative of the population that we serve and particularly welcomes applications from people from minority ethnic communities represented (or living) in the city. Selection will be made on ability and skills to undertake the role.
Newport City Council is not currently supporting applicants with sponsorship for right to work. In applying for a vacancy, applicants should already have the right to work in the UK.
Our values – Fairness for all, Making a difference, Being responsible, Working togetherEin gwerthoedd – Tegwch ar gyfer pawb, Gwneud Gwahaniaeth, Bod yn gufrifol, Gweithio gydan gilydd
Rhif swydd POSN002939 - Athrawes Dosbarth Canolfan Adnodd Dysgu (LRB) - Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli
Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i benodi athro / athrawes egnïol ar gyfer y CAD (LRB Unit) newydd a fydd yn agor yn yr ysgol ym mis Medi 2025. Mae'r ysgol wedi symud safle yn Ebrill 2025 ac wedi symud i ganol dinas Casnewydd sef, ardal Pilgwenlli. Mae’r ysgol gyfan wedi ymrwymo i sefydlu cymuned ddysgu feithringar a pharchus sydd ag ethos cryf a chwbl gynhwysol. Mae’r ysgol wedi ymrwymo'n gryf i'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru a'i nod yw darparu amgylchedd dysgu cyfrwng Cymraeg ysbrydoledig a chreu cymuned ddiogel a hapus o fewn yr ysgol.
Gwahoddir ceisiadau am Athro Dosbarth CAD brwdfrydig ac ymroddgar, sydd wedi ymrwymo i gyfrannu at les, dysgu ac I godi safonau’r plant.
Bydd y swydd yn cychwyn ym Medi 2025 ac mae lwfans ADY ynghlwm wrth y swydd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus sydd yn cael ei benodi i addysgu yn y ‘Canolfan Adnoddau Dysgu’ (LRB Unit) a fydd yn darparu ar gyfer disgyblion ag ystod o anghenion ychwanegol.
Rydym am benodi athro sydd:
• Yn meddu ar brofiad diweddar llwyddiannus o addysgu plant ag ystod o wahanol anghenion dysgu ychwanegol • Meddu ar sgiliau rheoli ymddygiad rhagorol• Yn gallu cynllunio a pharatoi cwricwlwm pwrpasol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o fewn amgylchedd pwrpasol a meithringar• Yn gallu cyfathrebu'n dda gyda chymuned yr ysgol gyfan ac asiantaethau allanol ac yn fedrus wrth reoli oedolion eraill o fewn y dosbarth.• Meddu ar y gallu i ddefnyddio ystod o ddulliau wrth addysgu plant ag anghenion ychwanegol ee. TEACCH, PECS, Byrddau Cyfathrebu, Cylchedau Synhwyraidd, Awtistiaeth Sylw, Rhyngweithio Dwys.
Profiad o weithio ar y cyd ag amrywiaeth o asiantaethau aml-asiantaeth e.e., Lleferydd ac Iaith, OT, VI, HI, a Thimau Niwroddatblygiadol.
Arwyddair yr ysgol yw: Law yn Llaw fe Hwyliwn Dros y Tonnau. Bydd ein teuluoedd yn ymgartrefu mewn man diogel, rhywle i ollwng yr angor a datblygu yng nghymuned Pilgwenlli, yn barod i hwylio i’r dyfodol.
Am fwy o wybodaeth amdanom gweler ein gwefan a/neu ffoniwch yr ysgol ar 01633 656687 os hoffech ddod am ymweliad neu sgwrs gyda’r Pennaeth, Mr Marc James.
Dyddiad cau ar gyfer y swydd hon yw am 11:59yh ar 4/6/25
Mae’r swydd hon wedi ei heithrio o Ddeddf Adfer Troseddwyr (1974) ac yn ddibynnol ar wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Rhwystro.
MAE YN OFYNNOL I CHI GOFRESTRU GYDA CGA AM Y SWYDD HON
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer ein holl swyddi yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.
Ar hyn o bryd, nid yw Cyngor Dinas Gasnewydd yn cefnogi ymgeiswyr i gael yr hawl i weithio yn y DU. Cyn gwneud cais am swydd, dylai fod gennych yr hawl i weithio yn y DU.
Rhif swydd POSN003180 - Swyddog Prosiect Cynorthwyol Newid Hinsawdd
Contract Cyfnod Penodol tan 31 Mawrth 2026 – Llawn Amser 37 awr yr wythnos. (Gellir ystyried oriau llai/cryno ar gyfer yr ymgeisydd cywir).
Lleoliad: Hybrid (Canolfan Ddinesig Casnewydd /Cartref)
Ydych chi eisiau mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd drwy ddatgarboneiddio?
Os felly, dyma gyfle gwych i chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn rôl lle byddwch yn cael eich cefnogi i wneud y peth iawn.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn chwilio am rywun fydd yn gallu parhau i gyflawni ein rhaglen newid hinsawdd uchelgeisiol gyda’r weledigaeth o ddod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030 a chefnogi’r Ddinas i fod yn Sero Net erbyn 2050.
Rydym eisiau rhywun sy'n llawn cymhelliant i wneud gwahaniaeth, sy'n gallu integreiddio'n gyflym, arwain pobl eraill ac sy'n benderfynol o gyflawni prosiectau a’u cwblhau.
Bydd deiliad y swydd yn rhan o dîm Newid Hinsawdd amlfedrus cynyddol sy'n gyfrifol am ein Cynllun Newid Hinsawdd Sefydliadol a'n Cynllun Ynni Ardal Leol ar gyfer y ddinas.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn adrodd i'r Swyddog Prosiect Newid Hinsawdd ac yn:
• Rheoli’r gwaith o gyflawni Rhaglen Ddatgarboneiddio Sero Net Casnewydd, sy’n cefnogi busnesau lleol gyda chyllid grant ar gyfer gosod seilwaith carbon isel• Cefnogi busnesau lleol a'n cadwyn gyflenwi i ddatgarboneiddio trwy ddarparu cyngor a helpu gyda chynhyrchu cynlluniau datgarboneiddio• Cefnogi datgarboneiddio ein caffael trwy gynghori ardaloedd eraill o fewn y cyngor ar sut y gallant ymgorffori datgarboneiddio yn eu gweithgaredd caffael• Cefnogi'r tîm newid hinsawdd i gyflawni ein hagenda ehangach.• Gweithio gyda chydweithwyr a sefydliadau partner i ddatblygu a chyflawni prosiectau a fydd yn cynhyrchu'r canlyniadau gofynnol gyda'r goddefiannau penodedig o ran amser, cost, ansawdd, cwmpas a risg.
Byddai'r rôl yn addas ar gyfer rhywun â chymhelliant i arbed carbon ac sydd wedi gweithio mewn rôl cynghori neu gefnogi prosiect yn flaenorol.
Dylai ymgeiswyr fod â gradd neu gyfwerth a phrofiad neu wybodaeth o feysydd ynni, hinsawdd neu leihau carbon.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn Awdurdod Lleol blaenllaw sy'n darparu 870 o wasanaethau unigol i'n trigolion. Mae gennym weinyddiaeth sydd wedi ymrwymo i'r argyfwng hinsawdd a natur a thîm newid hinsawdd sy’n tyfu.
Mae buddion gweithio i ni yn cynnwys cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith, cyfraniad pensiwn cyflogwr o 20%, gweithio hyblyg (cartref yn bennaf ar hyn o bryd), absenoldeb rhiant a rennir, cynllun prydlesu car aberthu cyflog, beicio i’r gwaith a gostyngiadau manwerthu amrywiol.
Ffoniwch Laura Waldron (Rheolwr Rhaglen – Newid Hinsawdd) ar 01633 839 837 i gael sgwrs anffurfiol gychwynnol am y swydd hon.
Rhif swydd EDSCH01379.5 - Cynorthwyydd Addysgu – Lefel 2
Swydd Cynorthwyydd Dysgu
Dechrau: Medi 2025
Llawn amser, tan ddiwedd y flwyddyn ysgol yn y lle cyntaf
Mae Ysgol Gymraeg Ifor Hael am apwyntio Cynorthwyydd Dysgu ar gyfer swydd dros dro am flwyddyn, i ddechrau ym Medi 2025.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, ymroddedig, hyblyg â’r cymwysterau i fod yn aelod allweddol o'n tîm. Bydd y rôl yn cynnwys gweithio o dan gyfarwyddyd y staff addysgu ac aelodau'r Uwch Dîm Rheoli er mwyn cynorthwyo athrawon, a chefnogi a diogelu disgyblion drwy’r ysgol.
Fe fydd yr ymgeiswyr yn medru siarad, darllen ac ysgrifennu’r iaith Gymraeg yn rhugl ac o safon uchel, ac yn ddelfrydol yn meddu ar gymhwyster mewn gofal plant a phrofiad o weithio gyda phlant.
Gwerthfawrogir manylion am ddatblygiad proffesiynol ac unrhyw fanylion o weithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol neu ar draws ystod oedran ysgol gynradd.
Cynigir y swyddi ar sail 32.5 awr yr wythnos, yn gweithio yn ystod tymor ysgol yn unig.
Am ragor o wybodaeth am y swydd cysylltwch â Mrs Clare Hoey, Pennaeth, ar 01633 631635.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeiswyr llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).(This is an advertisement for Teaching Assistant – Level 2 within a Welsh Medium Primary school for which the ability to work through the medium of Welsh and English is essential)
Mae pecyn cais ar gael ar wefan y sir (www.newport.gov.uk/jobs),
Dychweler y ffurflen a’r llythyr cais trwy wefan y sir at Mrs Clare Hoey, Pennaeth, Ysgol Gymraeg Ifor Hael, Meon Close, Bettws, Casnewydd NP20 7DU, Ffôn 01633 631635.
Dyddiad cau: 06.06.25Dyddiad Cyfweliad 12.06.25
Rhif swydd POSN004354 - Cyfreithiwr Cynorthwyol (Gwasanaethau Cymdeithasol)
Mae gan Wasanaethau Cyfreithiol Cyngor Dinas Casnewydd gyfle gwych ar gyfer Cyfreithiwr Cynorthwyol. Bydd deiliad y swydd yn gyfreithiwr / bargyfreithiwr cymwys neu gyfwerth.
Yn gadarnhaol ac yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel, byddwch yn gallu dangos mentergarwch a rhoi sylw i fanylion gan y byddwch yn gyfrifol am gynnal llwyth achos o achosion gofal plant.
Mae gwaith cyfreithiol llywodraeth leol yn amrywiol ac er y gall fod yn heriol ar adegau, mae hefyd yn rhoi boddhad yn aml. Bydd adegau pan fydd angen i chi weithio o dan bwysau a chydbwyso blaenoriaethau sy'n gwrthdaro, fodd bynnag, byddwch yn cael cymorth i wneud hyn. Bydd disgwyl i chi ddangos ymrwymiad i'ch datblygiad eich hun a pharodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant a datblygu sgiliau newydd yn ôl yr angen.
Mae profiad blaenorol o weithio mewn llywodraeth leol yn ddymunol. Yr hyn sy'n bwysig yw eich bod yn gallu dangos bod gennych y sgiliau a'r nodweddion a nodir yn y Fanyleb Person a brwdfrydedd gwirioneddol tuag at y rôl.
Os ydych yn meddwl bod gennych yr hyn yr ydym yn chwilio amdano a'ch bod yn awyddus i ddatblygu eich gyrfa mewn Cyngor blaengar sy'n gwneud ei staff yn ganolog i’r hyn y mae'n ei wneud, hoffem glywed oddi wrthych.
Rydym yn croesawu ceisiadau am ein holl swyddi yn Gymraeg neu yn Saesneg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi ymrwymo i weithio i ddatblygu gweithlu sy'n cynrychioli’r boblogaeth rydym yn ei gwasanaethu’n well ac mae’n croesawu, yn benodol, ceisiadau gan bobl o'r cymunedau ethnig lleiafrifol sy’n cael eu cynrychioli (neu sy’n byw) yn y ddinas. Dewisir yr ymgeisydd llwyddiannus ar sail gallu a sgiliau i gyflawni’r rôl.
Post No. POSN000802 - Teaching Assistant Level 2 St Julian's Primary School
St Julian’s Primary School provides education for pupils aged between 3 years and 11 years. It is located in the Beechwood residential area of Newport. There are currently 614 pupils on roll plus 100 part time pupils in the nursery.
The Governors of St Julian's Primary are seeking to appoint an enthusiastic, conscientious and professional Teaching Assistant (Level 2) to support children with additional learning needs. The successful candidate will be required to work under the guidance of the Head Teacher/ALNCo and be committed to helping each child achieve their full potential and be sensitive to their needs.
You will need to have excellent literacy and numeracy skills as well as good communication and interpersonal skills and a genuine commitment to the overall care and development of all pupils.
This is a fixed term post to 31 March 2026 with an immediate start. The successful applicant would be required to work from 8.30 a.m. until 3.30 p.m. (term time). Holidays must be taken during school closure periods.
This position is exempt from the Rehabilitation of Offenders Act (1974) and is subject to an enhanced Disclosure and Barring Service Check (DBS).
Closing date: 21/05/25Interview date: T.B.A.
Post No. POSN000306 - Teaching Assistant Level 1 Jubilee Park Primary School
Fixed Term Post 1st September 2025 - 20th July 2026
The position will be 33.5 hours a week:
Monday, Wednesday, Thursday, Friday 8:30am-3:30pmTuesday 8:30am-4:30pm
Applicants are invited to apply for a Teaching Assistant to provide support for children with additional learning needs at Jubilee Park Primary School in Newport, starting on 1st September 2025. Experience of working with ALN pupils is highly desirable.
Jubilee Park Primary School opened on the 1st September 2017 as an English-medium, community-maintained school. It has been established on a growing school basis to support the Jubilee Park housing development and is within the Bassaleg cluster of primary schools.
We are a learning community, focused on igniting a passion for learning. All members of our school work together to ensure wellbeing is at the heart of what we do. We are committed to creating a happy and inclusive learning environment where we support each other to thrive and success iscelebrated.
We are looking for somebody who:
● Is enthusiastic, motivated, caring and able to nurture children to achieve their potential● Is a committed team player and role model with proven ability to lead and empower children and colleagues● Is able to demonstrate and promote high expectations● Is committed to their own professional learning and development● Are actively committed to working in an anti-racist learning organisation● Is able to build a relationship of mutual respect with the pupils, parents, staff, the Governing Body and the growing community● Is able to bring passion, energy, enthusiasm and be driven to fulfil the role to the best of their ability
The appointment process will involve an interview with a member of the Leadership Team and a member of the Governing Body.
The Governing Body and Local Authority are committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expect all staff and volunteers to share this commitment.
This position is exempt from the Rehabilitation of Offenders Act (1974) and is subject to an enhanced Disclosure and Barring Service Check (DBS). This post requires you to be registered with the EWC.
Inspire, Nurture, Celebrate Success
Closing Date for Applications: Sunday 1st JuneShortlisting: Monday 2nd JuneInterviews Scheduled for: Friday 6th Jun
Post No. POSN004359 - Class Teacher - St Andrews Primary School
This appointment is offered on a fixed-term basis / full-time hours starting 1.9.25 (one year initially until 31.8.26).
There’s no place like St. Andrew’s!
We truly believe that there’s no place like St. Andrew’s! We provide the very best opportunities for all our pupils, to engage them through first-hand experiences and to enrich their curriculum as widely as possible. We work together to create an environment for learning, through a blended approach, that allows our children to be happy and safe; an environment that allows stimulating, interactive, experiential play and learning opportunities fit for the 21st Century. St. Andrew’s prides itself on being at the heart of its community; situated on the eastern side of Newport it is a large primary school (capacity for 740 pupils) that serves an area that is socially disadvantaged. At St. Andrew’s, one strength is the positive ethos and team spirit; we believe that diversity is a strength, to be respected and celebrated by all those who learn, teach and visit here. St. Andrew’s Primary School’s ethos and high-quality inclusion for pupils with ALN are a significant strength of the school. We aim to ensure that everyone has the same chances and opportunities irrespective of race, sex, class or disability. Our school motto is ‘Learning together, we reach for the stars’.
The Head Teacher, children, staff and Governing Body of St. Andrew’s Primary School are looking for a primary school teacher, who is an exceptional, highly-motivated, innovative, creative practitioner and is committed to children's learning, wellbeing and the raising of standards. We are a vibrant forward thinking school with a highly committed, dedicated and hard-working team who strive towards achieving the highest standards for all our children.
We are seeking excellent practitioners who have:
• The ability to inspire children to have a love of learning.• High expectations and a drive to raise standards.• Enthusiasm and a commitment to professional development.• Total dedication to the inclusion of all pupils.• High aspirations for developing pupil participation in the planning process of learning via a practical, hands-on, real life skills based curriculum.• A keen interest in extra-curricular activities.• A clear understanding of skills based curriculum, in particular the Literacy and Numeracy Framework.• The ability to teach Welsh as a second language. • The ability to contribute to the development and improvement of the school as a whole.• Expertise in digital learning.• An understanding of teaching children with English as an additional language.• The ability to develop children to be reflective learners. • A good understanding of both Foundation Phase and a skills based curriculum at Key Stage 2.
Visits to school Informal visits are welcomed. Please contact the Headteacher, Mrs Joanne Giles on 01633 839795 to arrange a visit.
Closing date: 12.00pm Monday 2nd June 2025Shortlisting: Wednesday 4th June 2025Interview dates: Friday 6th June 2025
Rhif swydd POSN004343 - Swyddog Tybaco Rhanbarthol
Mae cyfle wedi codi ar gyfer Swyddog Tybaco Rhanbarthol, i gefnogi a gwella gwaith y 22 o Wasanaethau Safonau Masnach yr Awdurdodau Lleol sy'n ffurfio Safonau Masnach Cymru. Bydd y rôl hon yn helpu i frwydro yn erbyn y cyflenwad o dybaco anghyfreithlon ledled Cymru, ac yn cefnogi strategaeth y Llywodraeth, "Dod â’r broblem i stop", gyda'r nod o dargedu'r galw am dybaco anghyfreithlon a'r cyflenwad o dybaco anghyfreithlon ledled y Deyrnas Unedig.
Mae Operation CeCe yn fenter sy'n ffocysu ei hymdrechion ar amharu ar y fasnach tybaco anghyfreithlon ar lefel manwerthu lleol, gan alluogi atafaelu tybaco anghyfreithlon o safleoedd manwerthu a phreswyl, tarfu ar y farchnad ac atal twyll.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain y gwaith o gydlynu a chefnogi gweithgareddau Safonau Masnach lleol ledled Cymru i orfodi deddfwriaeth ac amharu ar ymddygiad mewn perthynas â gwerthu tybaco anghyfreithlon. Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gydag asiantaethau gorfodi a phartneriaid, ond yn gyfrifol yn uniongyrchol am waith rheoli prosiect i sicrhau canlyniadau cadarnhaol o ran lleihau ac amharu ar y cyflenwad o dybaco anghyfreithlon.
Yn gyflogedig gan Gyngor Dinas Casnewydd, ochr yn ochr â swyddogion o'r Timau Ymchwilio a Cudd-wybodaeth Rhanbarthol, bydd deiliad y swydd yn adrodd i'r Rheolwr Ymchwiliadau a Chudd-wybodaeth yng Nghyngor Dinas Casnewydd.
Oherwydd natur y rôl, bydd gofyn i ddeiliad y swydd deithio o amgylch Cymru a mynychu cyfarfodydd cenedlaethol a gynhelir gan y Safonau Masnach Cenedlaethol.
Mae angen profiad blaenorol o orfodi deddfwriaeth a byddai gwybodaeth am rôl reoleiddiol Safonau Masnach o fantais.
I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Heather Sawyer (heather.sawyer@newport.gov.uk)