SWYDDI mewnol-y lle gwag hwn ar gael yn unig i weithwyr Cyngor Dinas Casnewydd a gweithwyr asiantaeth sy'n cymryd rhan ar hyn o bryd gyda'r Cyngor
I chi wneud cais rhaid cyfrif cyflogai hunanasesu gwasanaeth (ESS). Os oes gennych un, cysylltwch â trent.helpdesk@newport.gov.uk â eich teitl cyfeiriad, enw a swydd gweithiwr.
Rhif swydd POSN001976 - UWCH SWYDDOG CYNLLUNIO
MAE CYFLE WEDI CODI AR GYFER UWCH SWYDDOG CYNLLUNIO YN YR ADRAN RHEOLI DATBLYGIAD
Bydd rôl deiliad y swydd yn yr adran Gwasanaethau Datblygu a bydd yn cynorthwyo gyda phob mater sy’n ymwneud a chynllunio a rheoli datblygu gan gynnwys casglu, cofnodi, crynhoi a dadansoddi gwybodaeth ar geisiadau, apeliadau neu orfodi a dilysu pob cais. Mae’r rôl hefyd yn ymofyn i’r deiliad y swydd fod yn gyfrifol am achosion cynllunio a cheisiadau cysylltiedig cymhleth a dadleuol, achosion gorfodi ac apeliadau yn cynnwys trafodaethau ag ymgeiswyr, gwerthusiadau safle, ymchwiliadau, paratoi adroddiadau ac argymhellion a chynrychiolaeth y Cyngor mewn gwrandawiadau apêl ac ymchwiliadau ac yn y llys. Ar ambell waith, mae’n bosib bydd rhaid i ddeiliad y swydd cyflwyno achosion ar gyfer penderfyniadau dirprwyedig neu Bwyllgor. Bydd deiliad y swydd hefyd yn darparu cyngor cyn-ymgeisio ar brosiectau sylweddol a lleifafrifol, yn darparu gwasanaeth dyletswydd i’r cyhoedd ac yn arwain neu’n cynghori aelodau iau o staff i’w cynorthwyo gyda’u dyletswyddau.
Mae’r allu i yrru i ymgymryd ymweliadau safle yn hanfodol. Bydd deiliad y swydd yn adrodd i Reolwr Cynllunio ardal y Dwyrain a dylid anfon unrhyw ymholidau i Joanne.Davidson@newport.gov.uk .
Bydd deiliad y swydd yn meddu cymhwyster cydnabeddedig mewn Cynllunio Tref ar lefel Gradd new’n uwch. Mae aelodaeth yr RTPI neu’r medr i dal aelodaeth yn ofynnol. Mae cronfa wybodaeth da a’r brofiad i ddelio a materion rheoli datblygiad cymhleth/dadleuol yn handfodol.
Cynhelir cyfweliadau ar ddiwedd mis Mai.
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer pob swydd naill ai’n Gymraeg neu’n Saesneg
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.
Our values – Courageous, Positive and ResponsibleEin gwerthoedd – Dewr, Cadarnhaol, Cyfrifol
Rhif swydd POSN001988 - Rheolwr Adfywio a Lleoedd
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn awyddus i recriwtio Rheolwr Adfywio a Lleoedd yn ardal y gwasanaeth Adfywio a Datblygu Economaidd. Mae hwn yn gyfle cyffrous i'r person cywir arwain ein gwasanaeth prysur wrth i ni weithio mewn partneriaeth i wneud Casnewydd yn lle gwych i fyw, gweithio, ymweld a dysgu.
Mae Casnewydd yn ddinas fodern ac uchelgeisiol gyda chynlluniau beiddgar ar gyfer adfywio trefol, twf economaidd a diwylliant mawr yn y dyfodol. Rydym am greu Casnewydd gynaliadwy a balch lle mae creu lleoedd, diwylliant a gwydnwch wrth wraidd yr hyn a wnawn. Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, cadarnhaol a phragmatig i fod yn Rheolwr Adfywio a Lleoedd nesaf. Rydym am i rywun sydd ag ymrwymiad ac angerdd ein helpu i sicrhau bod ein dinas yn ffynnu. Fel arweinydd y Cyngor ar Adfywio a Datblygu Economaidd, bydd gennych hanes profedig o gyflawni prosiectau a strategaethau adfywio mawr. Byddwch yn gyfrifol am oruchwylio'r gwaith o gyflawni'r gwahanol swyddogaethau sy'n gysylltiedig ag adfywio a datblygu economaidd, gan gynnwys cymorth busnes, gwaith & rhaglenni sgiliau, twristiaeth a digwyddiadau, a rheoli diwylliant, treftadaeth a hamdden y ddinas.
I gael trafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Tracey Brooks ar 07790 899900 neu e-bostiwch Tracey.Brooks@newport.gov.uk
Rhif swydd POSN001989 - Rheolwr Adfywio a Lleoedd
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn awyddus i recriwtio Rheolwr Cynllunio a Datblygu yn ardal y gwasanaeth Adfywio a Datblygu Economaidd. Mae hwn yn gyfle cyffrous i'r person cywir gyflawni rôl y Prif Swyddog Cynllunio ac arwain ein timau cynllunio a rheoli adeiladu prysur wrth i ni weithio mewn partneriaeth i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i Gasnewydd a'i thrigolion.
Mae Casnewydd yn ddinas fodern ac uchelgeisiol gyda chynlluniau beiddgar ar gyfer adfywio, datblygu a thyfu trefol mawr yn y dyfodol. Rydym am greu Casnewydd gynaliadwy a balch lle mae creu lleoedd a gwydnwch wrth wraidd yr hyn a wnawn. Rydym yn chwilio am berson hynod frwdfrydig, cadarnhaol a phragmatig i fod yn Rheolwr Cynllunio a Datblygu nesaf. Rydym am i rywun sydd ag ymrwymiad ac angerdd ein helpu i sicrhau bod ein dinas yn ffynnu. Fel Prif Swyddog Cynllunio'r Cyngor, byddwch yn Gynllunydd Tref siartredig sydd â hanes profedig o ddarparu gwasanaethau cynllunio. Byddwch yn gyfrifol am oruchwylio'r gwaith o gyflawni'r gwahanol swyddogaethau sy'n gysylltiedig â chynllunio a rheoli adeiladu, gan gynnwys polisi cynllunio, Cadwraeth a chymorth technegol.
Rhif swydd PE1036 - Swyddog Cymorth Mynwentydd
Mae cyfle gwych wedi codi i ymuno â'n hadran mynwentydd. Mae rôl Swyddog Cymorth Mynwentydd yn swydd gyflym iawn, lle’r ydych yn helpu teuluoedd mewn profedigaeth yn Ninas Casnewydd a'r cyffiniau.
Yr oriau gwaith yw dydd Llun i ddydd Gwener 8:45am - 4:45pm. Mae yna hefyd rota ar alwad, a all fod angen i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio ar benwythnosau.
Rhif swydd EDUSM50036 - Swyddog Derbyn i Ysgolion (2 swydd) – Gradd 4 (Llawn amser, parhaol)
Mae'r Tîm Derbyn i Ysgolion yn gyfrifol am hwyluso mynediad i leoedd ysgol a chyfleoedd dysgu ledled y ddinas i fodloni anghenion plant a phobl ifanc, ac am yr holl dasgau sy'n ymwneud â derbyniadau i ysgolion a throsglwyddo i ysgolion Casnewydd a rhyngddynt. Mae'r Cyngor yn derbyn nifer uchel iawn o geisiadau am dderbyniadau i ysgolion oherwydd y twf yn y boblogaeth, sy'n rhoi pwysau ar leoedd ysgol mewn rhai rhannu penodol o'r ddinas.
Rydym yn ceisio recriwtio dau unigolyn sydd wedi eu haddysgu at NVQ Lefel 3 o leiaf neu gyfwerth ac sydd ag o leiaf dair blynedd o brofiad o weithio yn y maes gweinyddu yn y sector cyhoeddus. Byddai gwybodaeth ymarferol am y Broses Derbyn i Ysgolion yn fantais. Bydd deiliaid y swyddi yn gyfrifol am brosesu pob cais derbyn i ysgolion yn ystod y flwyddyn mewn modd effeithlon ac amserol yn unol â Chod Derbyn i Ysgolion statudol Llywodraeth Cymru/Polisi Derbyn i Ysgolion Cyngor Dinas Casnewydd, ac o dan gyfarwyddyd, i gefnogi agweddau penodol ar broses trosglwyddo fesul cam derbyn i ysgolion.
Oherwydd natur y swydd, rhagwelir y bydd gwyliau blynyddol yn cael eu cymryd yn gyffredinol yn ystod cyfnodau pan fydd yr ysgolion ar gau. Gellir galw ar ddeiliad y swydd hefyd i weithio oriau estynedig neu anghymdeithasol yn ystod cyfnodau o faterion gwaith penodol a phan fydd pwysau.
Mae’r swydd wedi’i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr (1974)
Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg yn ddymunol.
Rhif swydd ER1001- Rheolwr Polisi Cynllunio
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn awyddus i recriwtio Rheolwr Polisi Cynllunio yn y Gwasanaeth Adfywio a Datblygu Economaidd. Dyma gyfle cyffrous i'r person cywir helpu i lywio datblygiad y Ddinas yn y dyfodol a chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflawni dyheadau adfywio a thwf y Cyngor yn ogystal â diogelu ein hasedau hanesyddol ac amgylcheddol gorau.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i arwain y gwaith o weithredu'r Cynllun Datblygu Lleol Newydd, yn ogystal â chynrychioli Casnewydd ar lefel ranbarthol gyda'r bwriad o greu Cynllun Datblygu Strategol De-ddwyrain Cymru. Byddwch yn rheoli tîm bach o swyddogion ac yn gyfrifol am yr holl swyddogaethau polisi cynllunio lleol a strategol.
Bydd gennych gymhwyster cydnabyddedig mewn Cynllunio Trefol ar lefel gradd neu ddiploma a byddwch yn Aelod Siartredig o'r RTPI. Mae gwybodaeth a phrofiad blaenorol mewn materion polisi cynllunio yn hanfodol.
I gael trafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Matthew Sharp ar 01633 210058 neu e-bostiwch Matthew.Sharp@newport.gov.uk