Rhif swydd POSN002088 Cynorthwywyr Addysgu Lefel 3 Yn y Ganolfan Drochi Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli
Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i benodi cynorthwy-ydd dosbarth egnïol ar gyfer y Ganolfan Drochi ym mis Medi 2025.
Mae’r Ganolfan Drochi, sydd wedi ei leoli yn Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli, wedi’i sefydlu er mwyn ehangu’r ddarpariaeth trochi yng Nghasnewydd ar gyfer disgyblion sydd wedi trosglwyddo i addysg Gymraeg. Mae'r ysgol wedi symud safle yn Ebrill 2025 ac wedi symud i ganol dinas Casnewydd sef, ardal Pilgwenlli. Mae’r ysgol gyfan wedi ymrwymo i sefydlu cymuned ddysgu feithringar a pharchus sydd ag ethos cryf a chwbl gynhwysol. Mae’r ysgol gyfan wedi ymrwymo'n gryf i'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru a'i nôd yw darparu amgylchedd dysgu cyfrwng Cymraeg ysbrydoledig a chreu cymuned ddiogel a hapus i bawb.
Rydym yn chwilio am gynorthwy-ydd dosbarth brwdfrydig ac ymroddgar i weithio dan oruchwyliaeth yr athrawes dosbarth yn y Ganolfan Drochi. Bydd yr angen i allu ymrwymo i gyfrannu at les, dysgu ac, wrth gwrs, i godi safonau ieithyddol y plant yn hanfodol.
Fe fydd yr ymgeiswyr yn medru siarad, darllen ac ysgrifennu’r iaith Gymraeg yn rhugl, ac yn ddelfrydol yn meddu ar gymhwyster mewn gofal plant a phrofiad o weithio gyda phlant.
Arwyddair yr ysgol yw: Law yn Llaw fe Hwyliwn Dros y Tonnau.
Bydd ein teuluoedd yn ymgartrefu mewn man diogel, rhywle i ollwng yr angor a datblygu yng nghymuned Pilgwenlli, yn barod i hwylio i’r dyfodol.
Cynigir y swydd ar sail 32.5 awr yr wythnos, yn gweithio yn ystod tymor ysgol yn unig.
Am ragor o wybodaeth am y swydd cysylltwch â Mr Marc James, Pennaeth, ar 01633 656687.
Dyddiad cau ar gyfer y swydd hon yw 14/7/25.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeiswyr llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).(This is an advertisement for Teaching Assistant in the Immersion Unit– Level 3 within a Welsh Medium Primary school for which the ability to work through the medium of Welsh and English is essential)
Mae’r swydd hon wedi ei heithrio o Ddeddf Adfer Troseddwyr (1974) ac yn ddibynnol ar wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Rhwystro.
MAE YN OFYNNOL I CHI GOFRESTRU GYDA CGA AM Y SWYDD HON
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer ein holl swyddi yn y Gymraeg neu'r Saesneg.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.
Ar hyn o bryd, nid yw Cyngor Dinas Gasnewydd yn cefnogi ymgeiswyr i gael yr hawl i weithio yn y DU.
Cyn gwneud cais am swydd, dylai fod gennych yr hawl i weithio yn y DU.
Our values – Fairness for all, Making a difference, Being responsible, Working together
Ein gwerthoedd – Tegwch ar gyfer pawb, Gwneud Gwahaniaeth, Bod yn gufrifol, Gweithio gydan gilydd