Rhif swydd EDSCH02132.1 - Hysbyseb – Arweinydd Cymraeg - Ysgol Gyfun Gwent Is Coed
Gwahoddir ymgeiswyr i gychwyn ym mis Ebrill 2025.
Mae Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghasnewydd. Mae wedi’i leoli wrth ymyl Parc Tredegar, 20 munud o Gaerdydd a 5 munud o’r M4. Mae ein dysgwyr yn dod o ardal unigryw o ran hanes a diwylliant ac rydym yn hynod o falch ein bod yn ran o’r tŵf yn y Gymraeg yma yn Ne Ddwyrain Cymru.
Rydym yn ysgol gyfeillgar a chynhwysol yn ôl adroddiad Estyn 2022, ac rydym yn ymfalchio yn ein ethos o ddisgwyliadau uchel ar gyfer holl gymuned yr ysgol. Mae ein gwerthoedd craidd yn cynnwys bod yn uchelgeisiol ar gyfer pob unigolyn yn yr ysgol, creu cymuned hapus lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn ac yn parchu ei gilydd a datblygu dysgwyr i fod yn unigolion hyderus sy’n arddel eu Cymreictod.
Rydym yn awyddus i benodi Arweinydd Cymraeg brwd, egnîol a deallus a fydd yn cyfrannu’n llawn i wireddu gweledigaeth yr ysgol. Byddai’r ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno âc adran hynod o flaengar ac effeithiol gyda chanlyniadau TGAU ardderchog dros y dair blynedd diwethaf.
Mae hwn yn gyfle arbennig i fod yn ran o dîm gweithgar a brwdfrydig sy’n angerddol dros sicrhau’r addysg o’r safon uchaf ar gyfer ein holl ddysgwyr. Mae Ysgol Gyfun Gwent is Coed wedi ymrwymo i ddatblygu dysgu proffesiynol parhaus holl staff yr ysgol a sicrhau bod pob aelod o gymuned yr ysgol yn derbyn profiadau ardderchog.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd cysylltwch â’r Pennaeth, Eirian Jones, ar 01633 851614 neu drwy e-bost ar jonese3687@ysgolioncasnewydd.cymru
Dyddiad cau: Dydd Llun y 3ydd o Chwefror 2025
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer ein holl swyddi yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.
Ar hyn o bryd, nid yw Cyngor Dinas Gasnewydd yn cefnogi ymgeiswyr i gael yr hawl i weithio yn y DU. Cyn gwneud cais am swydd, dylai fod gennych yr hawl i weithio yn y DU.
Our values – Fairness for all, Making a difference, Being responsible, Working togetherEin gwerthoedd – Tegwch ar gyfer pawb, Gwneud Gwahaniaeth, Bod yn gufrifol, Gweithio gydan gilydd