Rhif swydd POSN000870 Cynorthwywyr Addysgu Lefel 2 Ysgol Gymraeg Casnewydd
Mae Corff Llywodraethol yr Ysgol flaengar ac arloesol hon yn awyddus i benodi Cynorthwywyr Addysgu (Lefel 2, Gradd 3) sy’n frwdfrydig, yn ddibynadwy ac yn ofalgar i ymrwymo ac ymuno â thîm o staff egniol, gweithgar a hapus ar gyfer mis Medi 2025. Gwahoddir ceisiadau ar gyfer swyddi â chytundeb blwyddyn (yn y lle cyntaf) gan gynorthwywyr profiadol neu’n newydd i’r rôl.
Mae Ysgol Gymraeg Casnewydd yn ymfalchïo yn ein Cymreictod a’n hethos gofalgar, croesawgar a chymunedol.
“Mae Ysgol Gymraeg Casnewydd yn gymuned gynhwysol gyda phwyslais cryf ar les a datblygiad disgyblion”, Estyn 2025Ein datganiad o genhadaeth yw: ‘Meithrin meddyliau yfory gyda’n gilydd’.
Ein nôd yw meithrin disgyblion i gyrraedd safonau uchaf posib ac i’w datblygu i feddwl yn ddwys am eu byd a’u rhan o fewn y byd ehangach. Lleolir Ysgol Gymraeg Casnewydd tafliad carreg oddi ar gyffordd 24 yr M4, felly’n ddigon agos i Gaerdydd ac yn hawdd i gyrraedd o sawl cyfeiriad.Am fwy o wybodaeth amdanom, gweler ein cyfrif Trydar: @YsgolGCasnewydd neu ffoniwch yr Ysgol (01633) 290270 er mwyn dod am ymweliad neu sgwrs gyda’r Pennaeth, Mr Spencer Jones.
Bydd y rôl yn ymwneud â: • Cyd-weithio'n effeithiol gydag athro dosbarth a staff yr ysgol • Gweithio a chefnogi disgyblion yn y dosbarth • Rhoi cefnogaeth / cymorth 1:1 neu â grwpiau bach o ddisgyblion gan gynnwys dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Am fwy o wybodaeth amdanom, gweler ein cyfrif Trydar: @YsgolGCasnewydd a’n gwefan: https://www.ysgolgymraegcasnewydd.com/
Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon am 11:59yh 7/7/25. Tynnir y rhestr fer ar y 8/7/25. Cynhelir cyfweliadau ar 11/7/25.
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn hanfodol i ymgymryd â’r swydd hon. Felly, mae’r swydd yn cael ei hysbysebu yn unol â darpariaethau Adran 38 o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976.
Mae’r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. O dan y gyfraith mae’n rhaid i ni i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o’ch hawl i weithio yn y DU. Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, byddwch yn cael eich gofyn i ddarparu dogfennau priodol fel eich tystysgrif geni llawn/pasbort/trwydded waith yn unol â’r Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1996.
MAE YN OFYNNOL I CHI GOFRESTRU GYDA CGA AM Y SWYDD HON
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer ein holl swyddi yn y Gymraeg neu'r Saesneg.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.
Ar hyn o bryd, nid yw Cyngor Dinas Gasnewydd yn cefnogi ymgeiswyr i gael yr hawl i weithio yn y DU.
Cyn gwneud cais am swydd, dylai fod gennych yr hawl i weithio yn y DU.
Our values – Fairness for all, Making a difference, Being responsible, Working together
Ein gwerthoedd – Tegwch ar gyfer pawb, Gwneud Gwahaniaeth, Bod yn gufrifol, Gweithio gydan gilydd