Rhif swydd POSN002590 - Athro o dan hyfforddiant - Ysgol Gyfun Gwent Is Coed
Dyma gyfle i hyfforddi fel athro uwchradd drwy’r Brifysgol Agored TAR WEDI EI ARIANNU’N LLAWN (rhaglen 2 flynedd)
Yn eisiau erbyn: Medi 2025 (cytundeb 2 flynedd)
Mae Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghasnewydd. Mae wedi’i leoli wrth ymyl Parc Tredegar, 20 munud o Gaerdydd a 5 munud o’r M4. Mae ein dysgwyr yn dod o ardal unigryw o ran hanes a diwylliant ac rydym yn hynod o falch ein bod yn ran o’r tŵf yn y Gymraeg yma yn Ne Ddwyrain Cymru.
Rydym yn ysgol gyfeillgar a chynhwysol yn ôl adroddiad Estyn 2022, ac rydym yn ymfalchio yn ein ethos o ddisgwyliadau uchel ar gyfer holl gymuned yr ysgol. Mae ein gwerthoedd craidd yn cynnwys bod yn uchelgeisiol ar gyfer pob unigolyn yn yr ysgol, creu cymuned hapus lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn ac yn parchu ei gilydd a datblygu dysgwyr i fod yn unigolion hyderus sy’n arddel eu Cymreictod.
Mae'r ysgol yn cynnig cyfle arbennig i unigolyn trwy raglen bartneriaeth TAR (2 flynedd) a ariennir yn llawn gan y Brifysgol Agored. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn addysgu Saesneg. Mae’r ysgol wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi ymgyrch Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.
Mae'r rhaglen wedi'i hanelu at raddedigion sydd unai’n gweithio ar hyn o bryd neu sydd â phrofiad yn y gorffennol o weithio mewn amgylchedd gyda phlant a phobl ifanc. Gall hyn gynnwys cynorthwywyr addysgu a hyfforddwyr dysgu sy'n dymuno symud ymlaen yn eu gyrfa yn ogystal â swyddogion ieuenctid. Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd yn eu blwyddyn olaf yn y Brifysgol hefyd.
Rydym yn awyddus i benodi athro Saesneg o dan hyfforddiant brwd, egnîol a deallus a fydd yn cyfrannu’n llawn i wireddu gweledigaeth yr ysgol. Mae hwn yn gyfle arbennig i fod yn ran o dîm gweithgar a brwdfrydig sy’n angerddol dros scirhau’r addysg o’r safon uchaf ar gyfer ein holl ddysgwyr. Mae Ysgol Gyfun Gwent is Coed wedi ymrwymo i ddatblygu dysgu proffesiynol parhaus holl staff yr ysgol a sicrhau bod pob aelod o gymuned yr ysgol yn derbyn profiadau ardderchog. Bydd deilydd y swydd hon yn cael cefnogaeth lawn gan yr ysgol a’i phobl wrth iddynt ddatblygu i fod yn addysgwr hyderus, arloesol a chreadigol.
MAE YN OFYNNOL I CHI GOFRESTRU GYDA CGA AM Y SWYDD HON.
Mae’r llwybr TAR yn rhaglen 2 flynedd. Rhaid i ymgeiswyr fodloni'r gofynion mynediad TAR arferol ac mae rhagor o fanylion am hyn ar gael ar gais.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd cysylltwch â’r Pennaeth, Eirian Jones, ar 01633 851614 neu drwy e-bostio jonese3687@ysgolioncasnewydd.cymru
Dyddiad cau: Dydd Gwener y 4ydd o Orffennaf 2025
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer ein holl swyddi yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.
Ar hyn o bryd, nid yw Cyngor Dinas Gasnewydd yn cefnogi ymgeiswyr i gael yr hawl i weithio yn y DU. Cyn gwneud cais am swydd, dylai fod gennych yr hawl i weithio yn y DU.
Our values – Fairness for all, Making a difference, Being responsible, Working togetherEin gwerthoedd – Tegwch ar gyfer pawb, Gwneud Gwahaniaeth, Bod yn gufrifol, Gweithio gydan gilydd