Rhif swydd POSN003075 - Cynorthwy-ydd Dosbarth - L2 - Canolfan Adnodd Dysgu (LRB Unit) - Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli
Medi 2025
Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i benodi cynorthwy-ydd egnïol ar gyfer y CAD (LRB Unit) newydd a fydd yn agor yn yr ysgol ym mis Medi 2025. Mae'r ysgol wedi symud safle yn Ebrill 2025 ac wedi symud i ganol dinas Casnewydd sef, ardal Pilgwenlli. Mae’r ysgol gyfan wedi ymrwymo i sefydlu cymuned ddysgu feithringar a pharchus sydd ag ethos cryf a chwbl gynhwysol. Mae’r ysgol wedi ymrwymo'n gryf i'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru a'i nod yw darparu amgylchedd dysgu cyfrwng Cymraeg ysbrydoledig a chreu cymuned ddiogel a hapus o fewn yr ysgol.
Gwahoddir ceisiadau am gynorthwy-ydd dosbarth CAD brwdfrydig ac ymroddgar, sydd wedi ymrwymo i gyfrannu at les, dysgu ac i godi safonau’r plant.
Mae Pennaeth a Llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli am benodi Cynorthwy-ydd Cefnogi Dysgu (Lefel 3) i weithio yn y Ganolfan Adnoddau Dysgu.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan arweiniad/cyfarwyddyd Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yr ysgol ac yn cefnogi'r Athro yn y Ganolfan Adnodd Dysgu.
Bydd profiad o weithio gyda phlant ag anghenion o fantais, gan gynnwys, gweithio gyda phlant o fewn lleoliad ysgol. Mae agwedd feithringar, gadarnhaol a gofalgar yn rhan hanfodol o’r rôl hon, yn ogystal â gallu gweithio fel rhan o dîm.
Arwyddair yr ysgol yw: Law yn Llaw fe Hwyliwn Dros y Tonnau. Bydd ein teuluoedd yn ymgartrefu mewn man diogel, rhywle i ollwng yr angor a datblygu yng nghymuned Pilgwenlli, yn barod i hwylio i’r dyfodol.
Am fwy o wybodaeth amdanom gweler ein gwefan a/neu ffoniwch yr ysgol ar 01633 656687 os hoffech ddod am ymweliad neu sgwrs gyda’r Pennaeth, Mr Marc James.
Dyddiad cau ar gyfer y swydd hon yw 11/6/25
Mae’r swydd hon wedi ei heithrio o Ddeddf Adfer Troseddwyr (1974) ac yn ddibynnol ar wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Rhwystro.
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer ein holl swyddi yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.
Ar hyn o bryd, nid yw Cyngor Dinas Gasnewydd yn cefnogi ymgeiswyr i gael yr hawl i weithio yn y DU. Cyn gwneud cais am swydd, dylai fod gennych yr hawl i weithio yn y DU.
Our values – Fairness for all, Making a difference, Being responsible, Working togetherEin gwerthoedd – Tegwch ar gyfer pawb, Gwneud Gwahaniaeth, Bod yn gufrifol, Gweithio gydan gilydd