Rhif swydd POSN001458 -Athro Mathemateg - Ysgol Gyfun Gwent Is Coed
Mae Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghasnewydd. Mae ein dysgwyr yn dod o ardal unigryw o ran hanes a diwylliant ac rydym yn hynod o falch ein bod yn ran o’r tŵf yn y Gymraeg yma yn Ne Ddwyrain Cymru.
Rydym mewn cyfnod cyffrous yn ein hanes gyda’n dysgwyr blwyddyn 13 cyntaf newydd adael ac agor ail ran ein adeilad newydd yn nhymor y Pasg 2023. Rydym yn ysgol gyfeillgar a chynhwysol yn ôl adroddiad Estyn 2022, ac rydym yn ymfalchio yn ein ethos o ddisgwyliadau uchel ar gyfer holl gymuned yr ysgol.
Rydym yn awyddus i benodi athro mathemateg brwd, egnîol a deallus a fydd yn cyfrannu’n llawn i wireddu gweledigaeth yr ysgol. Mae hwn yn gyfle arbennig i fod yn ran o dîm gweithgar a brwdfrydig sy’n angerddol dros sicrhau’r addysg o’r safon uchaf ar gyfer ein holl ddysgwyr. Mae Ysgol Gyfun Gwent is Coed wedi ymrwymo i ddatblygu dysgu proffesiynol parhaus holl staff yr ysgol a sicrhau bod pob aelod o gymuned yr ysgol yn derbyn profiadau ardderchog.
Gwahoddir ymgeiswyr i gychwyn ym mis Medi 2024.
Cyflog ar gyfer y swydd uchod: Prif Raddfa Broffesiynol
Dyddiad cau: Dydd Gwener y 1af o Ragfyr 2023
Am sgwrs anffurfiol am y swydd cysylltwch â’r Pennaeth, Eirian Jones, ar 01633 851614 neu drwy e-bostio [email protected]
MAE YN OFYNNOL I CHI GOFRESTRU GYDA CGA AM Y SWYDD HON
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer pob swydd naill ai’n Gymraeg neu’n Saesneg
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.
Our values – Courageous, Positive and ResponsibleEin gwerthoedd – Dewr, Cadarnhaol, Cyfrifol