Rhif swydd EDWCH01379.5 - 2 Swydd Cynorthwyydd Dysgu - Ysgol Gymraeg Ifor Hael
Dechrau Medi 2023
Mae Ysgol Gymraeg Ifor Hael am apwyntio 2 Gynorthwyydd Dysgu ar gyfer swydd dros dro am flwyddyn, i ddechrau cyn gynted â phosib.
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, hyblyg â’r cymwysterau i fod yn aelod allweddol o'n tîm. Bydd y rôl yn cynnwys gweithio o dan gyfarwyddyd y staff addysgu ac aelodau'r Uwch Dîm Rheoli er mwyn cynorthwyo athrawon a chefnogi disgyblion drwy’r ysgol.
Fe fydd yr ymgeiswyr yn medru siarad, darllen ac ysgrifennu’r iaith Gymraeg yn rhugl ac o safon uchel, ac yn ddelfrydol yn meddu ar gymhwyster mewn gofal plant a phrofiad o weithio gyda phlant.
Gwerthfawrogir manylion am ddatblygiad proffesiynol ac unrhyw fanylion o weithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol neu ar draws ystod oedran ysgol gynradd.
Cynigir y swyddi ar sail 32.5 awr yr wythnos, yn gweithio yn ystod tymor ysgol yn unig.
Am ragor o wybodaeth am y swydd cysylltwch â Mrs Clare Hoey, Pennaeth, ar 01633 414694.
MAE YN OFYNNOL I CHI GOFRESTRU GYDA CGA AM Y SWYDD HON.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeiswyr llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer ein holl swyddi yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.
Our values – Courageous, Positive and ResponsibleEin gwerthoedd – Dewr, Cadarnhaol, Cyfrifol