Rhif Swydd: POSN001050 - Swyddog Arholiadau a Gweinyddol - Ysgol Gyfun Gwent Is Coed
Mae Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghasnewydd. Mae ein dysgwyr yn dod o ardal unigryw o ran hanes a diwylliant ac rydym yn hynod o falch ein bod yn ran o’r tŵf yn y Gymraeg yma yn Ne Ddwyrain Cymru.
Rydym mewn cyfnod cyffrous yn ein hanes gyda’n dysgwyr blwyddyn 13 cyntaf ac agor ail ran ein adeilad newydd yn nhymor y Pasg 2023. Rydym yn ysgol gyfeillgar a chynhwysol yn ôl adroddiad Estyn 2022, ac rydym yn ymfalchio yn ein ethos o ddisgwyliadau uchel ar gyfer holl gymuned yr ysgol.
Rydym yn awyddus i benodi swyddog arholiadau a gweinyddol brwd, egnîol a deallus a fydd yn cyfrannu’n llawn i wireddu gweledigaeth yr ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ymgymryd â phrosesau gweinyddol gan gynnwys gweithredu arholiadau yn yr ysgol. Mae hwn yn gyfle arbennig i fod yn ran o dîm gweithgar a brwdfrydig sy’n angerddol dros scirhau profiadau o’r safon uchaf ar gyfer ein holl ddysgwyr. Mae Ysgol Gyfun Gwent is Coed wedi ymrwymo i ddatblygu dysgu proffesiynol parhaus holl staff yr ysgol a sicrhau bod pob aelod o gymuned yr ysgol yn derbyn profiadau ardderchog.
Gwahoddir ymgeiswyr i gychwyn cyn gynted â phosibl.
Cyflog ar gyfer y swydd uchod: Gradd 6
Dyddiad cau: Dydd Llun y 26ain o Fehefin 2023
Am sgwrs anffurfiol am y swydd cysylltwch â’r Pennaeth, Eirian Jones, ar 01633 851614 neu drwy e-bostio jonese3687@ysgolioncasnewydd.cymru
Mae’r swydd hon wedi’i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr (1974) ac yn amodol ar wiriad GDG manwl.
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer ein holl swyddi yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
We welcome applications for all our jobs in either Welsh or English. An application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.
Our values – Courageous, Positive and ResponsibleEin gwerthoedd – Dewr, Cadarnhaol, Cyfrifol