Post No. EDSCH02207.1 - Swyddog Cefnogi Ysgol (cyfnod mamolaeth)
Hysbyseb – Swyddog cefnogi ysgol (cyfnod mamolaeth)
Ysgol Gyfun Gwent Is Coed
Cyflog - gradd 3
Mae Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghasnewydd. Mae ein dysgwyr yn dod o ardal unigryw o ran hanes a diwylliant ac rydym yn hynod o falch ein bod yn ran o’r tŵf yn y Gymraeg yma yn Ne Ddwyrain Cymru.
Rydym mewn cyfnod cyffrous yn ein hanes gyda’n dysgwyr blwyddyn 13 cyntaf newydd orffen ac agor ail ran ein adeilad newydd yn nhymor y Pasg 2023. Rydym yn ysgol gyfeillgar a chynhwysol yn ôl adroddiad Estyn 2022, ac rydym yn ymfalchio yn ein ethos o ddisgwyliadau uchel ar gyfer holl gymuned yr ysgol.
Rydym yn awyddus i benodi swyddog cefnogi ysgol (cyfnod mamolaeth) brwd, egnîol a deallus a fydd yn cyfrannu’n llawn i wireddu gweledigaeth yr ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd â’r canlynol;
● Cynnal systemau cofnodi / gwybodaeth â llaw a chyfrifiadurol● Ymgymryd â theipio, prosesu geiriau a thasgau eraill yn seiliedig ar TG● Cyfrannu at ethos/gwaith/nodau cyffredinol yr ysgol● O dan gyfarwyddyd/arweiniaid yr Uwch staff, darparu cymorth gweinyddol ac ariannol cyffredinol yn yr ysgol.
Mae hwn yn gyfle arbennig i fod yn ran o dîm gweithgar a brwdfrydig sy’n angerddol dros scirhau profiadau o’r safon uchaf ar gyfer ein holl ddysgwyr. Mae Ysgol Gyfun Gwent is Coed wedi ymrwymo i ddatblygu dysgu proffesiynol parhaus holl staff yr ysgol a sicrhau bod pob aelod o gymuned yr ysgol yn derbyn profiadau ardderchog.
Gwahoddir ymgeiswyr i gychwyn cyn gynted â phosibl.
Cyflog ar gyfer y swydd uchod: Gradd 3
Dyddiad cau: Dydd Gwener y 1af o Ragfyr 2023
Am sgwrs anffurfiol am y swydd cysylltwch â’r Pennaeth, Eirian Jones, ar 01633 851614 neu drwy e-bostio [email protected]
We welcome applications for all our jobs in either Welsh or English. An application submitted in Welsh will not be treated less favourably than an application submitted in English.
Newport City Council is committed to working towards its workforce being more representative of the population that we serve and particularly welcomes applications from people from the minority ethnic communities represented (or living) in the city. Selection will be made on ability and skills to undertake the role.
Our values – Courageous, Positive and ResponsibleEin gwerthoedd – Dewr, Cadarnhaol, Cyfrifol