Rhif swydd EDSCH02207.16 - Swyddog Cefnogi Ysgol (cyfnod mamolaeth) - Ysgol Gyfun Gwent Is Coed
Cyfnod Mamolaeth i 31.08.24
37 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn
Mae Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghasnewydd. Mae ein dysgwyr yn dod o ardal unigryw o ran hanes a diwylliant ac rydym yn hynod o falch ein bod yn ran o’r tŵf yn y Gymraeg yma yn Ne Ddwyrain Cymru.
Rydym mewn cyfnod cyffrous yn ein hanes gyda’n dysgwyr blwyddyn 13 cyntaf newydd orffen ac agor ail ran ein adeilad newydd yn nhymor y Pasg 2023. Rydym yn ysgol gyfeillgar a chynhwysol yn ôl adroddiad Estyn 2022, ac rydym yn ymfalchio yn ein ethos o ddisgwyliadau uchel ar gyfer holl gymuned yr ysgol.
Rydym yn awyddus i benodi swyddog cefnogi ysgol brwd, egnîol a deallus a fydd yn cyfrannu’n llawn i wireddu gweledigaeth yr ysgol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd â’r canlynol;
● Cynnal systemau cofnodi / gwybodaeth â llaw a chyfrifiadurol● Ymgymryd â theipio, prosesu geiriau a thasgau eraill yn seiliedig ar TG● Cyfrannu at ethos/gwaith/nodau cyffredinol yr ysgol● O dan gyfarwyddyd/arweiniaid yr Uwch staff, darparu cymorth gweinyddol ac ariannol cyffredinol yn yr ysgol.
Mae hwn yn gyfle arbennig i fod yn ran o dîm gweithgar a brwdfrydig sy’n angerddol dros scirhau profiadau o’r safon uchaf ar gyfer ein holl ddysgwyr. Mae Ysgol Gyfun Gwent is Coed wedi ymrwymo i ddatblygu dysgu proffesiynol parhaus holl staff yr ysgol a sicrhau bod pob aelod o gymuned yr ysgol yn derbyn profiadau ardderchog.
Gwahoddir ymgeiswyr i gychwyn cyn gynted â phosibl.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr (1974) ac mae'n destun Gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) gwell.
Am sgwrs anffurfiol am y swydd cysylltwch â’r Pennaeth, Eirian Jones, ar 01633 851614 neu drwy e-bostio [email protected]
Dyddiad cau: Dydd Gwener y 29ain o Fedi 2023
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer ein holl swyddi yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.
Our values – Courageous, Positive and ResponsibleEin gwerthoedd – Dewr, Cadarnhaol, Cyfrifol