Rhif swydd POSN003695 - Pennaeth — Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli
Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr am y cyfle unigryw a chyffrous hwn i fod yn Bennaeth Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli. Mewn partneriaeth â rhieni a'r gymuned, mae Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli wedi ymrwymo'n gryf i'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru a'i nod yw darparu amgylchedd dysgu cyfrwng Cymraeg ysbrydoledig a chreu cymuned ddiogel a hapus o fewn yr ysgol.
Mae'r ysgol yng Nghaerllion ar hyn o bryd ond bydd yn symud i ganol dinas Casnewydd yn ardal Pillgwenlli.
Arwyddair yr ysgol yw: Law yn Llaw fe Hwyliwn Dros y Tonnau. Bydd ein teuluoedd yn ymgartrefu mewn man diogel, rhywle i ollwng yr angor am sbel a datblygu yng nghymuned Nant Gwenlli, yn barod i hwylio i’r dyfodol.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein cyfrif X: @NantGwenlli a'n gwefan: www.nantgwenlli.cymru
Mae'r Corff Llywodraethol wedi ymrwymo i benodi Pennaeth sydd yn:
• Arweinydd ysbrydoledig sydd â gweledigaeth glir ar gyfer ein hysgol, gan gynnal a datblygu ethos addysg yng Nghymru• Dyheu am ragoriaeth, gan feithrin a datblygu ein disgyblion i gyrraedd eu llawn botensial• Meddu ar sgiliau arwain, rheoli, cyfathrebu a rhyngbersonol profedig i hyrwyddo gwaith tîm effeithiol.• Dangos ac yn hyrwyddo cydraddoldeb a disgwyliadau uchel o ran cyrhaeddiad ac ymddygiad.• Gallu meithrin perthnasau parchus gyda disgyblion, rhieni, y gymuned, staff a'r Corff Llywodraethol.• Ceisio datblygu trefniadau cydweithio cryf gyda'r holl bartneriaid a sefydliadau sy'n cefnogi'r ysgol.
Bydd y llywodraethwyr yn cefnogi'r ymgeisydd llwyddiannus ym mhob agwedd o fywyd ysgol er mwyn sicrhau parhad a gwelliant yr ysgol lwyddiannus iawn hon.
Mae croeso cynnes i ddarpar ymgeiswyr ymweld â'r ysgol ar 2 Mai 2024. Os hoffech ddod, cysylltwch â Rachel Howells howellsr12@ysgolioncasnewydd.cymru i gadarnhau eich presenoldeb.
Dyddiadau Allweddol
Dyddiad cau: Dydd Llun 6ed Mai
Creu Rhestr Fer: 10 Mai 2024
Ymweliad ysgol i arsylwi gwasanaeth yn cael ei gynnal — 17 Mai 2024
Dyddiad arfaethedig ar gyfer cyfweliadau: Dydd Llun 20 Mai
Dyddiad Cychwyn: 1af Medi 2024 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny
Mae'n rhaid i ni ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, gofynnir i chi ddarparu dogfennau priodol fel eich tystysgrif geni lawn/pasbort/trwydded waith yn unol â Deddf Lloches a Mewnfudo 1996.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar bob ymgeisydd. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
I wneud cais am y swydd hon, ewch i'n gwefan: www.newport.gov.uk/cy/Council-Democracy/Council-jobs/Council-Jobs-landing.aspx
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer pob swydd naill ai’n Gymraeg neu’n Saesneg
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymrwymedig i weithio tuag at gael gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ac yn arbennig fe groesewir ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig a gynrychiolir (neu sy’n byw) yn y ddinas. Caiff penodiad ei wneud yn seiliedig ar y gallu a’r sgiliau i gyflawni'r rôl.
Our values – Courageous, Positive and ResponsibleEin gwerthoedd – Dewr, Cadarnhaol, Cyfrifol